Ein gwaith yng Nghymru

English

Rydym yn eich cefnogi i ddatblygu lleoliadau niwro-gynhwysol, lle mae gwahaniaeth yn cael ei ddathlu, a lle mae pob dysgwr awtistig yn cael addysg gadarnhaol. 

Mae plant yn chwarae gyda thoes chwarae.

Mae Rhaglen Datblygiad Proffesiynol newydd yr Ymddiriedolaeth Addysg Awtistiaeth (AET) i Gymru yn fenter hyfforddiant awtistiaeth achrededig DPP unigryw. 

Nod y Rhaglen yw creu newid diwylliant parhaol yn y ffordd y mae ysgolion yn cefnogi disgyblion awtistig.  

Mae wedi cael ei gyd-gynhyrchu gyda rhieni, gweithwyr proffesiynol, a phanel o bobl ifanc awtistig, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu profiad ac anghenion byw pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol Cymru.  

Mae'r Rhaglen yn cynnig modiwlau hyfforddiant a dogfennau fframwaith wedi'u teilwra i gefnogi ymarfer ac mae'n cwmpasu cyfnodau addysgol o'r blynyddoedd cynnar hyd at gyfnod ysgolion. 

Darperir hyfforddiant gan Bartneriaid AET lleol, naill ai wyneb yn wyneb neu'n rhithwir, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu deniadol fel rhan o DPP parhaus ysgol neu leoliad.  

Mae'n rhaid i Bartneriaid AET, sy'n prynu trwydded i ddarparu'r hyfforddiant yn eu hardal, fodloni safonau cyflenwi AET. Rydym hefyd yn croesawu consortia nifer o sefydliadau sy'n cydweithio i ddarparu'r hyfforddiant.

Sut ydym yn helpu: 

Rydym yn gweithio ym mhob lleoliad addysg, o ysgolion unigol i ddulliau gwaith lleol neu ranbarthol gydag Awdurdodau Lleol. 
 
Mae ein cymorth wedi'i deilwra i'ch anghenion, ond gall gynnwys: 

  • Datblygu lleol neu ranbarthol i greu dull cynaliadwy, gan rymuso timau lleol i ddarparu hyfforddiant drwy drwydded. 
  • Ymgynghori a chyngor, gan gynnwys archwiliadau, dadansoddi anghenion hyfforddi, cynlluniau datblygu'r gweithlu, mentora ac offer rheoli newid diwylliant. 
  • Hyfforddiant awtistiaeth hyblyg ar gyfer eich ysgol, neu grŵp o leoliadau addysg.

Manteision 

  • Cysondeb o ran ansawdd ac arfer gorau. 
  • Hyder bod gan eich timau'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. 
  • Adeiladu lleoliadau cynhwysol lle mae pob myfyriwr yn ffynnu. 
  • Rhoi atebion ymarferol ar waith sy'n cyd-fynd â'r cod ymarfer ADY. 
  • Dull cyfannol cydgysylltiedig sy'n addasu i'ch lleoliad. 

Canlyniadau: 

  • 97% yn cytuno bod yr hyfforddiant yn briodol i system addysg Cymru 
  • Mae gan 96% lefel uwch o ddealltwriaeth o gryfderau ac anghenion plant a phobl ifanc awtistig 
  • 95% yn teimlo'n fwy hyderus yn cefnogi plant a phobl ifanc awtistig 

Ffynhonnell: adborth hyfforddiant Sir Fynwy 2024 

Pam gweithio gyda ni? 

Rydym yn darparu arbenigedd addysg awtistiaeth arbenigol, trwy ddarparu atebion ymarferol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 

Mae ein profiad yn seiliedig ar gydgynhyrchu a chydweithio, gyda phrofiad byw gan arbenigwyr ifanc awtistig o Gymru, rhieni a gofalwyr a gweithwyr addysg proffesiynol. 

Daeth yr AET â chyfoeth o brofiad, gwybodaeth a sgiliau nid yn unig ym maes arfer da awtistiaeth o ansawdd uchel, cyfoes sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ond hefyd ynghylch sut i ddatblygu, rheoli ac ymgorffori newid sefydliadol a diwylliannol. Mae hon wedi bod yn daith hynod werth chweil i bob un ohonom yn Sir Fynwy, ac rydym yn falch o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, a bydd ei etifeddiaeth yn golygu model cynaliadwy ar gyfer plant awtistig. 

Dr. Morwenna Wagstaff , Pennaeth Cynhwysiant, Cyngor Sir Fynwy 

Monmouthshire County Council Logo

Siaradwch gyda ni 

Cysylltwch â ni i ddarganfod sut gallwn ni helpu:  

Mae'r AET wedi gweithio mewn gwir bartneriaeth gyda ni i lunio a sefydlu dull cynaliadwy o yrru ymlaen ymarfer awtistiaeth gyson dda ar draws ein hysgolion, lleoliadau a Chanolfannau Adnoddau Arbennig. Mae eu harbenigedd o ran awtistiaeth a'u parodrwydd i ddeall ein hanghenion yn llawn wedi bod yn amhrisiadwy. 

Dr. Morwenna Wagstaff , Pennaeth Cynhwysiant, Cyngor Sir Fynwy 

Cofrestrwch i'n cylchlythyr isod – mae'r cylchlythyr ar gael yn Saesneg yn unig.